Nick Cave a Coffin Works (Birmingham 15/11/24)

 

Eshi i Birmingham efo ffrindiau i weld Nick Cave. Ystod y dydd aethom i Coffin Works (https://www.coffinworks.org). Iawn chwarae teg! Bach yn fyr i amgueddfa ac oedd y gwirfoddolwyr ar yr ochr o intense ar brydau… ond nhw gyd digon clên. £9.25 efo gift aid, ac er bod yr amgueddfa fach yn fyr dwi’m teimlo fel cefais fy nghonio o gwbl.

 

A fyswn awgrymu i rhiwyn fynd? Os ti gweld dy hun yn ganol Birmingham ac awydd ‘rwbath gwahanol, fyswn dwi’n meddwl.

Yna i weld Nick Cave oedda ni ar ddiwedd y dydd (nôs os am fod yn pedantic), ac joio oedd yr hanes. Dwi wedi gweld Nick Cave (Bad Seeds a Bad Seedless) llond llaw o weithiau a meddwl hwn neshi joio fwyaf. Mi roedd fy ffrindiau teimlo reit debyg, ac fel fi yn stryglo i feddwl am pam. Dwi’n meddwl mae ei gerddoriaeth mwy ‘newydd’ efo elfennau mwy amlwg o grefydd ac ellau oedd hynny yn dylanwadu at vibe y noson. Dwi’n ymwybodol fod ei gerddoriaeth wastad efo elfen yna ynddo, ond nawr mae’r sain ei hun efo naws ‘sermon’ iddo. Mi roedd ambell gan ystod y set yn teimlo fel can diwedd set. Dwi’n hipocrit efo hyn; casineb tuag at false finishes fel arfer ond y ffordd wnaeth Nick Cave ar Bad Seeds wneud o ar y noson jesd gweithio (i fi llu!).

 

Mi wnaeth set bleserus fod fwy pleserus wrth iddo wipio allan o ninlle Papa Won’t Leave You, Henry. Dwi’n cyfaddef can dwi heb feddwl am ers blynyddoedd i ddeud y gwir. Un o’r ffrindiau (sydd wedi ei weld dipyn mwy drost y blynyddoedd) yn nodi nid oedd ganddo unrhyw gof o Nick Cave chwarae hwn yn y 15-20 mlynedd diwethaf. Asu neshi joio hefyd (fel gweddill o’r 8,000). Nick Cave yn un o’r artistiaid prin sydd ar ôl sydd efo bac catalog enfawr ac o safon, felly mae o am gadel allan ambell i hit. Er fysa’ drim set list fi bach wahanol i beth gafwyd ei ganu ar y noson, dwi’m gytyd o gwbwl. Sy’n wiyrd i fi, oherwydd dwi joio gweld y crap mewn pethau fel rheol.

 

Nick Cave and the Bad Seeds yn Birmingham 15/11/24; feri gwd, wŷd dw agen 10/10.

 

Dwi wedi penderfynu mae Birmingham NEC yn crap o venue, I will not elaborate. Er hynny wnaeth y lleoliad ddim tarnish’io (gwrthod defnyddio’r gair llychwino) profiad y gig o gwbwl! Mi roedd mynd nôl i’r hotel bach yn shit ddo.

 

Dyma luniau a fideos o’r diwrnod (Rhaid clicio arno i agor google photos i chwrae y fideos)

Posted on

By